Rwyf wedi bod yn brysur ar brofiad gwaith â Lowri Davies dros y bythefnos ddiwethaf, ac wedi joio hyd yn hyn! Aethom ni i weld gwaith Cefyn Burgess yng Nghanolfan y Mileniwm, brasluniau mewn tecstiliau o gapeli cymru a lloegr, yn enwedig Lerpwl wnaeth dynnu fy sylw. Rwyf hefyd wedi bod yn cael gwersi Photoshop â Lowri, fydd yn help mawr gan fy mod yn defnyddio decals eithaf tipwyn gyda fy ngwaith Serameg. Fe wnaethom ni hefyd boster ar gyfer Penwythnos Agored Fireworks ar y 4ydd a 5ed o Fehefin.
Have been busy on Work Placement with Lowri Davies for the last two weeks, and have really enjoyed so far. Have visited the Millenium Centre to see Cefyn Burgess' exhibition of Welsh and English chapels in textiles.
Have been having lessons with Lowri Davies with photoshop, as I use a lot of decals so will be very handy to gain some more skills in that way, we made the poster for the Fireworks Open Weekend that's happening on the 4th and 5th of June.
Fe es i i weld Lowri Davies yn gwneud cyflwyniad i Ferched y Wawr, Talybont ar ddydd Llun, oedd yn ddiddorol iawn. Roedd hi'n ddiddorol cael gweld y gwahanol fathau o rwpiau y mae hi'n delio â.
I went to see Lowri Davies demonstrate to a WI group in Talybont on Monday, which was really interesting to see all the different variety of people that like hearing about her work.
Dydd Mawrth fe aethom i Stoke on Trent i nol clai ar gyfer gwaith Lowri Davies. Fe aethom i amgueddfa Wedwood oedd yn agoriad llygad! Ro'n i'n hoff iawn o'r teiliau arbrofi i gyd, mae'n amlwg ei bod yn arbenigwyr yn ei gwaith!
Then, on Tuesday we went to Stoke on Trent to pick up about a million tubs of bone china clay !! And had enough time to visit the wedgwood museum on the way! Really loved all the test tiles they had in a big chest of drawers, it was obvious that they were the masters of glazing! I thought I'd done a lot of tests!
Diwrnod rhydd dydd Mercher felly fe es i helpu Dad ym Mhenweddig â dosbarth Serameg, roedd hi'n ddiddorol cael deall nad ydw i am ddysgu o gwbl! Sgen i ddim yr amynedd!
Had a free day on Wednesday so decided to go to help my dad in Penweddig school with some ceramic classes, was quite good to learn that I definitely don't want to teach! I think I just don't have the patience!
Roedd agoriad arddangosfa Lowri Davies yn y Drenewydd ar ddydd Iau, felly es i i weld y gwaith i gyd. Ro'n i'n hoff o waith Anne Gibbs, Bone China gyda nydwyddau a phiniau wedi ei dal at ei gilydd - gwaith diddorol iawn!
The opening of Lowri Davies' curated show in Newtown was on Thursday, so went to see all the work! Loved Anne Gibbs work with bone china pieces on pins. I felt it to be a new and fresh way of working with clay.
Anne Gibbs in Craft in the Bay
Rwyf wedi bod yn gweithio yn Craft at the Bay am y ddau ddiwrnod ddwethaf, oedd yn brofiad anhygoel! Rwyf wedi dysgu gymaint am sut mae rhedeg galeri a sut y maent yn gweithio. Rwyf hefyd wedi cwrdd a nifer o'r artistiaid sy'n dangos ei gwaith yno yn barhaol! Rwy'n gobeithio gweithio yno chydig mwy os yn bosib!
For the last two days, I've then been working in Craft in the Bay which was an amazing experience! I've learnt so much about working in galleries, and how they work. I've also met some of the artists that have their work there, which was really nice! Hopefully will work some more there too!
Rwyf wedi bod yn meddwl am brosiect newydd i weithio arno a sut i'w ddechrau. Dim ond prosiect dablygu yw'r prosiect i fod, ond rwy'n hoff o'r syniad o drio dablygu syniadau cyn i mi ddechrau fy mlwyddyn olaf. Rwyf wedi bod yn edrych ar fy llinach achau, yn enwedig ochr fy mam. Fe ddes i o hyd i lyfr o fy nheulu ers Oes Victoria ac rwyf am edrych arnynt i fy ysbrydoli ar gyfer y prosiect yma. Rwyf hefyd wedi dod o hyd i wybodaeth ar fy mhentref a sut yr oedd yn arfer bod yn harbwr prysur i gario cargo i ddyffryn dyfi. Rwy'n meddwl bod y wybodaeth yma yn ddiddorol iawn, ac am edrych ar fwy o bentrefi tebyg, er enghraifft Dylife. Rwyf hefyd wedi bod yn edrych ar storiau y pentrefi, ac wedi meddwl am recordio fy nain yn adrodd rhai storiau yr oedd yn ei gwybod ers pan oedd hi'n blentyn.
I've been thinking about my new project and what should I do for it. It's only a research project but I think it can be a great time to start thinking about what I'd like to do next year. I've been looking into my family tree, in particular my mother's side, and looking at an old book from as far back as the victorian age with my ancestors in. Found it such a treasure and would love to work with it. Also, found many information books on my village at home and how it used to be a massive import town for most of Mid-Wales. Found this fascinating and would love to look into the derelict and ghost villages of my home town. Dylife is also a derelict slate quarry village that used to be very busy. I've also been looking into some stories and fables about these villages, have thought about recording my grandparents talk of some of the stories they knew as children.
Mae gen i amser prysur o fy mlaen gan fy mod angen gwneud portffolio ar gyfer cyfweliad, mae gen i hefyd profiad gwaith am bythefnos arall. Mae'n rhaid i fy nhraethawd fod i mewn erbyn Hydref! Rwy'n edrych ar Festival of Britain 1951 a'r cylchwyl sy'n digwydd y flwyddyn hon. Rwy'n edrych ymlaen i fynd i Llundain i weld y casgliad sydd gennyn nhw o 1951. Dyna i gyd am wan!
I've got a busy time ahead as I need to sort out a portpholio for an interview, also I have my placement for another two weeks. My dissertation needs to be handed in by October! I'm looking at the Festival of Britain 1951 and the diamond anniversary celebrations this year, looking forward to visiting London over the summer to see the collections they have from 1951. That's all for now!
No comments:
Post a Comment