Sunday 22 April 2012

Centrepiece for my degree show / Darn canolog fy sioe radd

I have been creating these vessel shapes for a while now, and have been getting some good and some bad results from the pieces I was creating. Then, I realized that the main reason that some forms were not working was due to the fact that I was letting my mind get influenced by the colour in the pieces I included in the forms. I wasn't purely looking at the form, and how that could be pushed by using contrasting pieces for the jugs. So, creating this centrepiece helped me to realize what was most important to my work in my opinion, and that's not colour, or texture, but form and shape. I think that's why this next piece is so successful, and I feel as if I've been able to re-create my making process from the first successful jug I created, back in December. 


I'm casting them at the moment and after casting three I still love when it comes out of the cast. I think the form being slightly lop-sided with a slight unease of the front of the jug being heavier than the back, really works with the flamboyant handle and extravagant bottom piece. 




Rwyf i wedi bod yn creu y siapiau vesel yma ers tipyn o amser rwan, ac wedi bod yn cael tipyn o lwyddiant, ond hefyd tipyn o anlwc. Yna, fe sylweddolais y prif reswm pam doedd rhai ohynynt ddim yn gweithio oedd fy mod yn gadael fy meddwl gael ei ddylanwadu gan y lliwiau y oeddwn yn ychwanegu i'r darnau. Doeddwn i ddim yn unig yn edrych ar siap y darnau, a sut y buaswn yn medru gwthio'r darnau cyferbynol gwahanol ar y jygiau. Felly, gan greu'r darn canolog yma mae o wedi fy helpu i i sylweddoli beth sydd mwyaf pwysig yn fy marn i, a nid gwedd na lliw ydy'r ateb, ond siap a ffurf. Rwy'n credu mai dyma pam fod y darn yma mor llwyddiannus, ac rwyn teimlo fel fy mod wedi gallu ail-greu fy mhroses gwneud fel ag y wnes i â'r jwg cyntaf, yn ôl yn mis Rhagfyr. 


Rwy'n eu castio ar y foment ac ar ôl castio tri, rydw i dal yn gwirioni ei tynnu o'r mold. Rwy'n credu bod y ffurf yn llwyddiannus iawn rhwng cydbwysedd y ffurf a'r darnau coegwych ar yr handlen, a'r darn gwaelod a gan ei fod wedi pwyso i un ochr ychydig â tipyn o bwysau ar y blaen i gymharu â'r tu ôl. 




We are getting on with the advertising and booklet for our degree show, Unearthed:2012. Have a look at our online blog:


Rydym ni yn symud ymlaen yn dda â'r gwaith i'r llyfryn a'r posteri hyrwyddo'r Sioe, Unearthed:2012. Edrychwch ar ein blog ar-lein:


www.unearthed2012.wordpress.com


Also the Facebook Event for the Degree Show opening on the 9th of June. The Show runs through till the 15th of June, at Howard Gardens, Cardiff School of Art & Design:


Mae gennym ni hefyd ddigwyddiad Facebook ar gyfer agoriad y Sioe Radd ar y 9fed o Fehefin. Mae'r Sioe ar agor tan y 15fed o Fehefin, yn Howard Gardens, Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd:


http://www.facebook.com/events/322866917778903/

No comments:

Post a Comment