Sunday 4 December 2011

Made by hand / Gwnaed a Llaw

Hello!

I've been helping out with Made by Hand since Thursday, helping with setting up, and ticket sales. It's been great to help out again, many different stalls from last year which was very nice to see. There was a huge array of work there from jewellery and ceramics to furniture and textiles. It was a lot busier than last year too, which was brilliant, we sold over 1100 tickets on Saturday. I think that Tredegar House is a brilliant setting for the event, it's nearly a pity to cover up the wood carvings with the stalls!

Rwyf i wedi bod yn helpu yng Nghasnewydd â Gwyl Gwnaed a Llaw ers dydd Iau, yn helpu i osod gwaith yr artistiaid yn eu lle erbyn yr agoriad dydd Gwener, fe fues i hefyd yn helpu â gwerthu tocynnau. Mae hi'n bleser cael helpu eto y flwyddyn yma, roedd nifer o wahanol artistiaid i'w gymharu â blwyddyn dwethaf. Roedd gwaith Serameg, gemwaith, tecstiliau a dodrefn pren yno. Roedd hi hefyd yn fwy prysur, i'w gymharu a blywddyn dwethaf, fe werthon ni 1100 o docynnau dydd Sadwrn! Mae cynnal yr wyl yn Nhy Tregegar yn ddelfrydol gan ei fod mor anhygoel tu fewn, mae bron yn biti cuddio'r cerfiadau pren y tu fewn â'r stondinnau! 


The outside of Tredegar House, The Victorian Side.

Here are some artists that I particularly liked : 
Dyma rhai o'r artistiaid roeddwn i mwynhau gweld yno:







Rachel Eardley




Helen Noakes







Helaina Sharpley


Lowri Davies


I enjoyed working at Made by Hand, and it's definitely worth it to see all the up-and-coming artist in their fields and get inspired to be as professional and original as them. 

Fe fwynheuais weithio yn Gwnaed a Llaw, ac mae werth pob munud i weithio yno i gael mynd mewn i weld gwaith artisiaid newydd yn eu maesydd a cael fy ysbrydoli i fod mor broffesiynol a gwreiddiol a nhw. 

I have a few events coming up in the next few weeks, including going to Lowri Davies' Ceramic work at Nantgarw Pottery. We're also raising money towards our degree show and are selling our crafts and gifts in different universities and craft fairs in Cardiff. 

Mae gen i ambell i beth ar y gweill yn y wythnosau nesaf, gan gynnwys mynd i agoriad Serameg newydd Lowri Davies yn Nantgarw. Rydym ni hefyd yn codi arian ar gyfer ein sioe radd gan werthu ein crefftau mewn gwahanol golegau a ffeiriau crefft yng Nghaerdydd. 

No comments:

Post a Comment